WIDI - Cymraeg

Yn draddodiadol mae Coleg Sir Gâr wedi cyflwyno tri chymhwyster mewn Gwybodeg Iechyd ar Lefelau 2, 3 a 4, sy’n dilyn calendar astudio academaidd traddodiadol.

Mewn partneriaeth â WIDI, sef Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru mae   Coleg Sir Gâr yn hapus iawn i allu cynnig blas ar ddysgu trwy ficro-gymwysterau. Mae’r holl fodiwlau wedi’u hariannu a’u hachredu’n llawn, fodd bynnag mae’r opsiwn newydd cyffrous hwn hefyd yn caniatáu i’r dysgwr ddewis a dethol y modiwlau sy’n bodloni ei ofynion penodol, yn hytrach na dilyn fframwaith cymwysterau.

Mae rhestr lawn o fodiwlau Lefel 2 ar gael fel a ganlyn:

Storio ac Adfer (3 Chredyd)

Ymchwilio Gwybodaeth (4 Credyd)

Trefnu ac Adrodd ar Ddata (3 Chredyd)

Hanfodion mewn Gwybodeg Iechyd (2 Gredyd)

Rheoli eich Perfformiad eich hun mewn Amgylchedd Busnes (2 Gredyd)

Egwyddorion Rheoli Gwybodaeth a Chynhyrchu Dogfennau (3 Chredyd)

Meddalwedd Cronfa Ddata (Microsoft Access) (4 Credyd)

Technegau Taenlen (3 Chredyd)

Technegau Prosesu Geiriau (3 Chredyd)

Egwyddorion Gweithio yn y Sector Cyhoeddus (5 Credyd)


Mae rhestr lawn o fodiwlau Lefel 3 ar gael fel a ganlyn:

Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Gweithio yn y Sector Iechyd (3 Chredyd)

Hyrwyddo Arfer Da wrth Drin Gwybodaeth mewn Lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2 Gredyd)

Rheoli Gwybodeg Iechyd mewn Lleoliadau Gofal Iechyd (3 Chredyd)

Adnabod Gofynion Gwybodaeth mewn Cyd-destun Iechyd (4 Credyd)

Egwyddorion Rheoli Gwybodaeth a Chynhyrchu Dogfennau mewn Amgylchedd Busnes (4 Credyd)

Dadansoddi a Chyflwyno Data a Gwybodaeth sy’n Berthnasol i Iechyd / Dadansoddi ac Adrodd ar Ddata (10 Credyd)

Rheoli Ansawdd Cynhyrchion a Gwasanaethau TGCh (12 Credyd)

Cynnal Safonau Ansawdd yn y Sector Iechyd (2 Gredyd)

Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes (3 Chredyd)

Cyflwyno Monitro a Gwerthuso Gwasanaeth Cwsmer i Gwsmeriaid Allanol (3 Chredyd)

Gwella Gwasanaeth yn y Sector Iechyd (3 Chredyd)

Cyfrannu at Wneud Penderfyniadau mewn Amgylchedd Busnes (3 Chredyd)

Deall Dwyieithrwydd yn y Gwaith (2 Gredyd)

Meddalwedd Rheoli Data (4 Credyd)

Egwyddorion Rhwydweithio (10 Credyd)

Dadansoddi Data  (11 Credyd)


Mae rhestr lawn o fodiwlau Lefel 4 ar gael fel a ganlyn:

Rheoli a Gwerthuso System Wybodaeth (6 Chredyd)

Hyrwyddo Arfer Da wrth Drin Gwybodaeth (5 Credyd)

Datblygu eich Effeithiolrwydd a'ch Proffesiynoldeb eich Hun (12 Credyd)

Egwyddorion Rheoli Gwybodaeth a Hysbysrwydd yn y Sector Iechyd (5 Credyd)


Dadansoddi ac Adrodd ar Ddata sy’n Berthnasol i Iechyd (6 Chredyd)

Dylunio Meddalwedd (10 Credyd)

Gweithredu System TG  (14 Credyd)

Rheoli Ansawdd Cynhyrchion a Gwasanaethau Digidol (9 Credyd)

 

 

Cysylltwch â bdi@colegsirgar.ac.uk am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.


Last modified: Monday, 6 March 2023, 11:27 AM